Mae Caerlŷr wedi enwi Owen Williams yn faswr ar gyfer eu gêm fawr yn rownd wyth olaf Cwpan Heineken y penwythnos hwn, ar ôl cyfres o berfformiadau da gan y gŵr ifanc.

Bydd tîm Richard Cockerill yn herio Clermont draw yn Ffrainc ddydd Sadwrn, a Williams sydd yn cipio’r crys rhif 10 o flaen maswr Lloegr a chapten Caerlŷr Toby Flood ar gyfer yr ornest.

Mae’r Cymro wedi bod yn serennu i Gaerlŷr yn ddiweddar, gan helpu’i dîm i fuddugoliaeth hollbwysig dros Northampton ar y penwythnos gyda’i record gicio 100%.

Fe fydd nawr yn cael y cyfle i ddangos ei ddoniau yn Ewrop, gyda’r hyfforddwr yn mynnu ei fod yn haeddu’i le.

“Fe ddywedais wrth Owen pan ymunodd e [o’r Scarlets yn 2013], os oedd e’n well na’r bechgyn eraill fe fyddai’n chwarae,” meddai hyfforddwr Caerlŷr Richard Cockerill. “Mae wedi bod yn well ac mae’n chwarae.

“Doedd perfformiadau Toby ddim yn grêt yn erbyn Caerwrangon a Chaerloyw ac fe droeon ni at Owen sydd wedi rheoli’r tir yn dda ac ar y cyfan wedi trosi’i giciau.

“Rydyn ni wedi chwarae’n well gydag ef yn rhif 10 ac rydym yn dewis ar sail perfformiadau yn hytrach na’r enw.”

‘Haeddu cap i Gymru’

Dyw Williams heb ennill cap dros Gymru eto, ac mae’n wynebu cystadleuaeth gref gan chwaraewyr megis Rhys Priestland, Dan Biggar, James Hook a Rhys Patchell am grys y maswr.

Ond os bydd yn parhau i berfformio i’w lefelau uchel diweddar dros Gaerlŷr, dim ond mater o amser fydd hi tan ddaw’r alwad gan Gatland yn ôl Cockerill.

“Mae Owen yn chwarae mewn tîm da iawn ac ar dop ei gêm, ac fe yw’r unig faswr Cymreig yn chwarae yn rownd wyth olaf Cwpan Heineken,” meddai Cockerill.

“Hoffwn i feddwl ein bod ni cystal â’r Scarlets a’r Gweilch, ble mae dau faswr Cymru’n chwarae, ac fe hoffech chi feddwl y byddai Owen yn cael ei gyfle os yw’n parhau i chwarae fel y mae wedi bod yn ei wneud.”

Mae’n bosib y bydd Williams yn wynebu cefnwr Cymru Lee Byrne brynhawn Sadwrn, gyda’r cefnwr yn parhau i ddisgleirio dros Clermont ar hyn o bryd.