Marc-Andre ter Stegen (llun: Michael Kranewitter, cc 3.0)
Mae FIFA wedi gosod gwaharddiad ar Barcelona rhag arwyddo na gwerthu unrhyw chwaraewyr am o leiaf blwyddyn, mewn penderfyniad syfrdanol heddiw.

Dywedodd yr awdurdodau fod y clwb o Gatalwnia wedi torri rheolau ynglŷn ag arwyddo chwaraewyr ifanc, a’u bod felly o dan waharddiad trosglwyddo am ddwy ‘ffenestr’.

Mae hyn yn golygu na fyddan nhw’n cael arwyddo unrhyw chwaraewyr yn ystod haf 2014 na mis Ionawr 2015.

Bydd gan Barcelona’r opsiwn o apelio, fel y gwnaeth Chelsea yn llwyddiannus pan osodwyd gwaharddiad tebyg arnyn nhw nôl yn 2009.

Dyw FIFA heb ddatgelu pa chwaraewyr sydd ynghlwm â’r achosion a gosbwyd Barcelona amdanynt, ond maen nhw wedi cadarnhau fod y troseddau yn ymwneud â throsglwyddo chwaraewyr o dan 18.

Dywedodd datganiad ar wefan FIFA fod Barcelona wedi torri’r rheolau yn achos deg chwaraewr ifanc, a’u bod hefyd yn cael dirwy o 450,000 ffranc (£300,000).

Penbleth i’r garfan

Er bod y gwaharddiad yn cynnwys ffenestr drosglwyddo haf 2014, dyw hi ddim yn glir eto a fydd hynny’n atal Barcelona rhag arwyddo’r golwr Marc-Andre ter Stegen, sy’n 21 oed, a’r chwaraewr canol cae Alen Halilovic sy’n 17.

Mae’r ddau eisoes wedi arwyddo cytundebau i ymuno â’r clwb yn yr haf wrth i’w cytundebau presennol ddirwyn i ben, ter Stegen gyda Borussia Monchengladbach a Halilovic gyda Dinamo Zagreb.

Mae disgwyl i ddau o hen bennau Barcelona, y golwr Victor Valdes a’r amddiffynnwr Carles Puyol, adael y clwb yn yr haf.

Byddai’r gwaharddiad ar brynu chwaraewyr, petai’n cael ei gynnal yn dilyn unrhyw apêl, yn debygol felly o arwain at gur pen amddiffynnol o fewn y garfan.