Ian Gough
Mae’r Dreigiau wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cryfhau eu pac ar gyfer y tymor nesaf wrth arwyddo’r clo Ian Gough a’r prop David Young.

Treuliodd Gough bedair blynedd gyda’r Dreigiau cyn symud i’r Gweilch yn 2007, gan ymddeol yn 2013 cyn cael ei demtio nôl i chwarae i Wyddelod Llundain eleni.

“Rydw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd i rygbi yng Nghymru,” cyfaddefodd Gough, a chwaraeodd 92 o weithiau dros y Dreigiau yn ei arhosiad cyntaf.

“Fe ddechreuodd fy ngyrfa rygbi yn Rodney Parade, felly mae’n wych i gael y cyfle i ddod yn ôl yma.”

Y Dreigiau’n “stori bositif”

Mynnodd Gough hefyd mai’r Dreigiau oedd un o’r unig ranbarthau sydd wedi llwyddo i greu argraff bositif yn ystod y cyfnod diweddar o drafferthion ymysg rygbi yng Nghymru.

“Mae adroddiadau diweddar ar rygbi rhanbarthol yng Nghymru wedi bod yn negyddol ond fi’n gweld y Dreigiau fel un o’r straeon positif sydd wedi dod allan ohoni,” mynnodd Gough.

“Mae’r garfan wedi dod mor bell o dan arweiniad Lyn Jones y tymor hwn – mae’n wych gweld fod un o’r cewri cysglyd bellach wedi deffro.”

Mae David Young, sydd ar hyn o bryd yn chwarae yn Jersey, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda’r rhanbarth.

Fe anwyd y prop pen tynn 29 oed ym Melfast, ac yn ystod ei yrfa mae hefyd wedi chwarae i Gaerlŷr, Caerloyw, Caeredin, Leeds Carnegie a Lazio.