Mae un o’r cyrff sydd yn cynrychioli cefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi ysgrifennu llythyr agored at awdurdodau Lloegr yn gofyn iddyn nhw dynhau rheolau ar berchnogion clybiau.
Daw’r llythyr yn sgil ffrae rhwng perchennog Hull City, Assem Allam, a chefnogwyr y clwb dros ddymuniad Allam i newid enw’r clwb i Hull Tigers.
Mae’n rhaid i unrhyw newid enw gael ei gymeradwyo gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr, ac mae pwyllgor yr FA eisoes wedi awgrymu gwrthod y cynnig i newid yr enw.
Cafodd lliwiau Caerdydd ei newid o las i goch gan y perchennog Vincent Tan yn 2012, gyda’r arfbais hefyd yn cael ei addasu â draig goch yn cymryd lle’r aderyn glas traddodiadol.
Fe arweiniodd hynny at rai cefnogwyr yn troi eu cefnau ar y clwb, gyda miloedd hefyd yn protestio yn erbyn y newid cyn eu gêm ddiweddar yn erbyn Lerpwl.
Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd nawr eisiau i’r FA ymestyn eu pwerau i atal newidiadau er mwyn cynnwys lliwiau ac arfbais clybiau hefyd.
Gwarchod hunaniaeth
Mewn llythyr agored i Gadeirydd FA Lloegr, Greg Dyke, a Phrif Weithredwyr yr Uwch Gynghrair a’r Gynghrair Bêl-droed, Richard Scudamore a Shaun Harvey, galwodd yr ymddiriedolaeth ar yr awdurdodau i ‘warchod hunaniaeth clybiau’.
“Rydyn ni’n credu fod yn rhaid i bêl-droed gymryd camau pellach i warchod hunaniaeth clybiau pêl-droed er lles cyfanrwydd y clybiau eu hunain a’r gêm yn ehangach,” meddai’r llythyr gan gadeirydd yr ymddiriedolaeth Tim Hartley.
“Oherwydd hynny mae gennym ni ddau gynnig sydd yn cyd-fynd â’r meddylfryd presennol yn y maes hwn:
1) Dylai lliwiau ac arfbeisiau clybiau gael eu hychwanegu i’r elfennau gwarchodedig sydd angen eu cymeradwyo gan yr FA
2) Dylai unrhyw glwb sydd am gyflwyno newid o’r fath ddilyn proses ffurfiol, annibynnol sydd yn cynnwys cydnabyddiaeth gan y cefnogwyr.
“Pwy bynnag sydd yn berchen clwb, ddylen nhw ddim cael caniatâd i sathru ar hanes, traddodiad a chefnogwyr clwb, gyda llawer wedi dilyn eu clwb pêl-droed ers degawdau.”
Mae’r llythyr hefyd yn cyfeirio at arolwg diweddar gafodd ei wneud gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd oedd yn awgrymu bod 85% o bobl yn cefnogi gwrthwynebu’r ail-frandio.
Dyw Caerdydd ddim yn cael tymor da iawn ar hyn o bryd ac yn parhau i fod mewn peryg o gwympo yn ôl i’r Bencampwriaeth, gyda’r tîm un safle a thri phwynt o’r safleoedd saff gyda chwe gêm i fynd.