Ryan Giggs
Yn ôl adroddiadau mae un o enwau mawr y byd pêl-droed, Ryan Giggs yn gadael Manchester United ar ddiwedd y tymor oherwydd ffrae honedig rhyngddo ef a’r prif hyfforddwr, David Moyes.
Fe wnaeth Manchester United benodi Ryan Giggs fel chwaraewr-hyfforddwr ar ddechrau’r tymor. Cyn belled, mae Giggs wedi dechrau mewn chwe gêm i United yn yr Uwch Gynghrair, ac wedi dod oddi ar y fainc mewn pum gêm.
Yn ôl yr adroddiadau mae’r asgellwr yn rhwystredig i beidio â dechrau mewn mwy o gemau yn ystod y tymor ac wedi dadlau gyda’r rheolwr ar nifer o achlysuron.
Ond yn ôl Giggs, does dim problem o gwbl rhyngddo ef a’r Albanwr.
‘‘Mae’r berthynas yn dda. Fel chwaraewr, rydych chi eisiau chwarae ym mhob gêm ond rwyf yn ymwybodol na fydda’i yn chwarae pob gêm. Ond fe wnes i ddangos fy ngallu yn erbyn Olympiakos ac yr wyf yn barod i chwarae o hyd,’’ meddai Giggs wrth y Mirror.