Jonathan de Guzman
Mae prif hyfforddwr Abertawe Garry Monk wedi dweud ei fod yn awyddus i arwyddo’r chwaraewr canol cae Jonathan de Guzman ar gytundeb tymor hir.
Mae’r chwaraewr rhyngwladol o’r Iseldiroedd yn ei ail dymor yn y Liberty ac ar fenthyg o Villareal ond mae Abertawe wedi datgan diddordeb mewn arwyddo de Guzman yn barhaol.
Mae’r chwaraewr 26 oed wedi dweud nad yw’n siŵr am ei ddyfodol eto ond yn mynnu ei fod yn hapus ar faes y Liberty.
‘‘Mae’n glwb gwych. Rwyf yn hapus yma, mae’r cefnogwyr a’r chwaraewyr yn arbennig,’’ meddai de Guzman.
Gobeithion de Guzman ar hyn o bryd yw bod yn rhan o garfan yr Iseldiroedd ar gyfer Cwpan y Byd ar ôl cael ei adael allan o’r garfan yn y misoedd diwethaf.
‘‘Rwyf yn gwneud fy ngorau i geisio sicrhau fy lle yn y garfan. Nid wyf wedi siarad llawer am y posibiliad ond mae angen i mi barhau â’r chwarae da ar y cae,’’ ychwanegodd de Guzman.
Yn ogystal mae de Guzman wedi dangos cefnogaeth i Garry Monk fel rheolwr yr Elyrch.
‘‘Mae pawb yn ei barchu. Cwrddais i ag ef am y tro cyntaf fel chwaraewr y flwyddyn ddiwethaf ond nawr ef sydd wrth y llyw. Ar ôl bod yma am 10 mlynedd mae’n gyfarwydd iawn â’r clwb,’’ dywedodd de Guzman.