George North
Llwyddodd Caerlŷr i gau’r bwlch ar Northampton yn y ras am ail safle cynghrair Aviva Lloegr ar ôl buddugoliaeth o 16-22 yn Franklins Gardens.

Trosodd Owen Williams gais Anthony Allen a chicio pum cic gosb i’r ymwelwyr, ac er i dîm George North sgorio dwy gais roedd record gicio 100% Williams yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth a chodi Caerlŷr i’r trydydd safle.

Llwyddodd Jonathan Thomas a Chaerwrangon gipio eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor ddydd Sul gan drechu Newcastle a Warren Fury o 12-17, buddugoliaeth hollbwysig sy’n golygu fod ganddynt dal lygedyn o obaith o aros yn y gynghrair.

Fe gaeodd Sale y bwlch ar Gaerfaddon yn y pedwerydd safle ar nos Wener ar ôl ennill 11-12, yn yr ornest oedd yn cynnwys y mwyaf o Gymry oddi cartref dros y penwythnos.

Fe ddechreuodd Paul James i’r tîm cartref, gyda Gavin Henson ar y fainc, tra bod Dwayne Peel, Eifion Lewis-Roberts, Marc Jones, Jonathan Mills a Nick MacLeod yn nhîm yr enillwyr.

Buddugoliaeth o bwynt gafodd Caerloyw dros Gaerwysg hefyd, gyda thîm Will James a Tavis Knoyle yn ennill y dydd o 13-14 dros Phil Dollman a’i griw.

Colli oedd hanes Ian Gough a Darren Allinson gyda Gwyddelod Llundain, wrth i Harlequins sicrhau buddugoliaeth gyfforddus o 23-9.

Draw yn Ffrainc Jamie Roberts a Mike Phillips oedd yr unig rai i weld eu tîm yn ennill, Racing Metro yn curo Stade Francais 22-32 i godi uwch eu pennau i’r pumed safle gyda Roberts yn dechrau a Phillips yn dod oddi ar y fainc.

Llwyddodd Biarritz i osgoi colled arall gan gipio gêm gyfartal gyffrous ac annisgwyl tu hwnt o 34-34 yn erbyn Castres, er mai Ben Broster oddi ar y fainc oedd yr unig Gymro i ymddangos.

Doedd hi’n sicr ddim yn brynhawn cystal i James Hook a Perpignan, wrth iddyn nhw golli o 23-5 yn erbyn Bordeaux.

Ac fe ddisgynnodd Clermont oddi ar y brig ar ôl colled annisgwyl i Brive o 26-24, gyda thîm Lee Byrne yn gweld Montpellier a Toulon yn codi uwch eu pennau ar ôl buddugoliaethau.

Seren yr wythnos: Owen Williams – ei record gicio cant y cant yn sicrhau canlyniad gwych i’w dîm.

Siom yr wythnos: Lee Byrne – ei dîm yn llithro o frig y Top 14 ar ôl colled annisgwyl.