Ddoe fe wnaeth tîm saith bob ochr rygbi Cymru golli yn rownd derfynol cystadleuaeth y Plât yn erbyn De Affrica yng nghyfres y byd yn Hong Kong.
Ar ôl colli i Seland Newydd yn y chwarteri yng nghystadleuaeth y Cwpan, fe wnaeth Cymru guro Canada yn rownd gyn-derfynol y Plât cyn symud ymlaen i herio De Affrica yn y rownd derfynol.
Wrth i’r chwib ganu am hanner amser, Cymru oedd ar y blaen o 14-5. Ond yn yr ail hanner fe wnaeth De Affrica dirio dau gais a llwyddo i’w trosi, gan arwain at y sgôr derfynol o 19-15.
‘‘Fe wnaeth y bechgyn chwarae’n dda, roedden ni’n hynod o agos at gipio’r Plât. Mae gan Dde Affrica chwaraewyr o safon uchel ac efallai yn dangos mwy o brofiad trwy fanteisio ar fannau allweddol yn y gêm.
“Fe wnaethant yn arbennig yn erbyn Canada ond yn colli o drwch blewyn i Dde Affrica,’’ meddai Prif hyfforddwr tîm saith bob ochr Cymru, Gareth Williams.