Bydd gêm dyngedfennol rhwng dau dîm sy’n brwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.

Ar ôl curo Chelsea am y tro cyntaf ers 24 mlynedd ddoe, mae Crystal Palace yn benderfynol o ailadrodd y gamp yn erbyn Caerdydd.

Ymhlith y chwaraewyr i’w gwylio fydd Cameron Jerome, ergydiwr Crystal Palace, sy’n un o gyn-chwaraewyr Caerdydd.

“Fydd y fuddugoliaeth fawr yn erbyn Chelsea yn golygu dim os cawn ni’n curo yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf,” meddai ar wefan Crystal Palace.

“Allwn ni ddim ymgolli yn ein llwyddiant. Fe wyddon ni fod gennym saith o gemau i fynd ond rhaid inni sicrhau ein bod ni’n perfformio cystal am weddill y tymor ac ennill digon o bwyntiau i aros yn yr Uwch Gynghrair.”