Scarlets 32–30 Connacht
Cafodd y Scarlets fuddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn Connacht ar Barc y Scarlets brynhawn Sul, ond fe gipiodd y Gwyddelod ddau bwynt bonws gyda chais hwyr hefyd.
Roedd hi’n ymddangos fel buddugoliaeth gyfforddus i’r Cymry ar ôl ceisiau Gareth Davies a Josh Turnbull ar ddechrau’r ail hanner ond fe frwydrodd Connacht yn ôl o fewn dau bwynt ychydig funudau o’r diwedd.
Sicrhaodd cais Gareth Maule y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws i’r Scarlets ddau funud o’r diwedd ond fe ddwynodd yr ymwelwyr ddau bwynt bonws hefyd gyda chais hwyr Eoin McKeon.
Hanner Cyntaf
Cafodd y Scarlets y dechrau perffaith gyda chais i Jonathan Davies wedi llai na dau funud yn dilyn gwaith da gan Jordan Williams ar y chwith.
Roedd y Gwyddelod yn ôl o fewn pwynt hanner ffordd trwy’r hanner diolch i ddwy gic gosb o droed Dan Parks ond ymatebodd y Scarlets a Rhys Priestland gyda dwy gic gosb ei hun i adfer y saith pwynt o fantais erbyn yr egwyl.
Ail Hanner
Roedd yr hanner cyntaf yn un digon cyffrous ond roedd yr ail yn well fyth, gyda saith cais i gyd.
Daeth y cyntaf o’r rheiny pan ffugiodd y mewnwr, Davies, wrth fôn y ryc cyn plymio o dan y pyst i ymestyn mantais ei dîm i bedwar pwynt ar ddeg.
Daeth trydydd yn fuan wedyn a hwn oedd cais gorau’r gêm. Dechreuodd Liam Williams y symudiad ar ei linell gais ei hun cyn i Kristian Phillips rwygo trwy’r amddiffyn a rhyddhau Turnbull i sgorio cais hyd-y-cae gwych.
Rhoddwyd llygedyn o obaith i Connacht pan sgoriodd Kieran Marmion o gic gosb gyflym toc cyn yr awr, ac fe gafwyd diweddglo nerfus iawn yn dilyn dau gais arall i’r Gwyddelod yn y deg munud olaf.
Sgoriodd yr asgellwr, Fionn Carr, y cyntaf ei hun yn dilyn cic daclus Miah Nikora i’r gornel, cyn bylchu’n dda i greu un arall i’r cefnwr, Robbie Henshaw.
Daeth y cais hwnnw â Connacht o fewn dau bwynt ond gan i drosiad Nikora fethu o drwch blewyn roedd cais Maule funud yn ddiweddarach yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws i’r Scarlets.
Roedd digon o amser i McKeon groesi am bedwerydd cais y Gwyddelod i ddod â hwy o fewn dau bwynt ar y chwiban olaf, a thrwy hynny, sicrhau dau bwynt bonws, ond roedd y Scarlets wedi gwneud digon i ennill gêm gyffrous yn haeddiannol.
Y Tabl
Mae’r canlyniad yn cadw’r Scarlets yn chweched a Connacht yn seithfed yn nhabl y RaboDirect Pro12, ac mae saith pwynt bellach yn gwahanu’r ddau dîm gyda phedair gêm ar ôl.
.
Scarlets
Ceisiau: Jonathan Davies 2’, Gareth Davies 49’, Josh Turnbull 52’, Gareth Maule 79’
Trosiadau: Rhys Priestland 4’, 50’, 80’
Ciciau Cosb: Rhys Priestland 24’, 34’
.
Connacht
Ceisiau: Kieran Marmion 55’, Fionn Carr 72’, Robbie Henshaw 75’, Eoin McKeon 80’
Trosiadau: Miah Nikora 73’, 80’
Ciciau Cosb: Dan Parks 6’, 22’