Zebre 25–25 Dreigiau Casnewydd Gwent
Roedd angen cais hwyr Jevon Groves ar y Dreigiau er mwyn sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Zebre yn y Stadio XXV Aprile brynhawn Sadwrn.
Roedd yr Eidalwyr ar y blaen o saith pwynt wrth i’r chwiban olaf agosau, diolch yn bennaf i gicio cywir y maswr, Luciano Orquera. Ond achubwyd y Cymry rhag embaras wrth i gais hwyr Groves a throsiad Jason Tovey gipio dau bwynt i’r Dreigiau.
Gyda Taulupe Faletau yn y gell gosb, fe aeth Zebre ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gyda chais yr wythwr, Samuela Vunisa, a throsiad Orquera.
 hwythau yn ôl i bymtheg dyn ar y cae fe darodd y Dreigiau yn ôl gyda chais i Dan Evans yn y gornel dde yn dilyn bylchiad Pat Leach trwy’r canol.
Ymatebodd yr Eidalwyr gyda chic gosb Gonzalo Garcia cyn i Ashley Smith roi’r Dreigiau ar y blaen am y tro cyntaf gydag ail gais yr ymwelwyr.
Ond Zebre ac Orquera a gafodd air olaf yr hanner wrth i gic gosb y maswr roi’r Eidalwyr ar y blaen, 13-12 ar hanner amser.
Brwydr gicio oedd hi am ran helaeth o’r ail hanner wedyn ond Zebre a gafodd y gorau ohoni. Llwyddodd Orquera gyda phedair i’r tîm cartref a Tovey â dim ond dwy wrth i’r bwlch ymestyn i saith pwynt.
Roedd angen cais ar y Cymry felly wrth i’r chwiban olaf agosáu ac fe ddaeth hwnnw dri munud o’r diwedd pan gamodd yr eilydd flaenasgellwr, Groves, dros ryc ar y llinell 22 medr cyn rhedeg yr holl ffordd am gais.
Sicrhaodd trosiad Tovey gêm gyfartal i’r Cymry, ond canlyniad siomedig oedd hwn mewn gwirionedd yn erbyn y tîm sydd ar waelod y Pro12.
Mae’r Dreigiau ar y llaw arall yn codi i’r wythfed safle ond mae eu gobeithion o orffen yn y chwech uchaf yn dechrau diflannu.
.
Zebre
Cais: Samuela Vunisa 20’
Trosiad: Luciano Orquera 20’
Ciciau Cosb: Gonzalo Garcia 32’, Luciano Orquera 40’, 47’, 59’, 65’, 73’
.
Dreigiau
Ceisiau: Dan Evans 26’, Ashley Smith 34’, Jevon Groves 77’
Trosiadau: Jason Tovey 34’, 77’
Ciciau Cosb: Jason Tovey 54’, 39’
Cerdyn Melyn: Taulupe Faletau 16’