Glasgow 11–9 Gweilch

Glasgow aeth â hi wrth i’r frwydr am le ym mhedwar uchaf y RaboDirect Pro12 boethi nos Wener. Bu rhaid i’r Gweilch fodloni ar bwynt bonws yn unig yn y diwedd yn dilyn ail hanner hynod gyffrous yn Scotstoun.

Dechreuodd y ddau dîm bedwar pwynt ar wahân yn y pedwerydd a’r pumed safle ond mae’r canlyniad yn golygu fod Glasgow yn cau’r bwlch hwnnw i un pwynt yn unig, ac mae gan yr Albanwyr ddwy gêm wrth gefn.

Roedd gwynt cryf Glasgow tu ôl i’r Gweilch yn yr hanner cyntaf a doedd fawr o syndod gweld y Cymry’n cael y gorau o’r tir yn y deugain munud agoriadol.

Bu rhaid aros tan hanner ffordd trwy’r hanner am y pwyntiau cyntaf serch hynny sef tri phwynt o droed Dan Biggar.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd ail hanner anodd yn aros y Gweilch yn erbyn y gwynt.

Unionodd Duncan Weir bethau i Glasgow wedi dim ond naw munud o’r ail gyfnod ac roedd maswr y tîm cartref wedi rhoi ei dîm ar y blaen ar yr awr gydag ail gic gosb.

Diweddglo Dramatig

Roedd digon o ddrama i ddod yn y chwarter olaf. Daeth Biggar â’r Gweilch yn gyfartal chwarter awr o’r diwedd gyda chic gosb yn dilyn cyfnod da o adeiladu gan y tîm i gyd.

Ac roedd hi’n ymddangos fod y Cymry wedi cipio buddugoliaeth holl bwysig saith munud o’r diwedd pan drosodd Biggar gôl adlam gywrain.

Tri munud yn unig a barodd y fantais honno cyn i Tommy Seymour ennill y gêm i Glasgow gydag unig gais y gêm. Gwnaeth yr asgellwr yn wych i gwrso a thirio cic gywir Niko Matawalu yn dilyn bylchiad gan y gŵr o Fiji yng nghanol cae.

Tarodd trosiad Weir yn erbyn y postyn felly dim ond dau bwynt oedd ynddi o hyd gyda thri munud i fynd.

Cafodd ail gais i Glasgow ei atal gan y dyfarnwr fideo ac fe lwyddodd y Gweilch, gyda’r cloc yn goch, i gyrraedd hanner Glasgow. Ceisiodd Biggar ei lwc gyda chynnig am gôl adlam arall ond cafodd ei atal gan Matawalu y tro hwn wrth i Glasgow wneud digon i sicrhau buddugoliaeth fain.

Pwynt bonws yn unig i’r Gweilch yn y diwedd felly ond mae’r pwynt hwnnw’n ddigon i’w cadw yn y pedwerydd safle yn nhabl y Pro12. Wedi dweud hynny, dim ond pwynt sy’n gwahanu’r ddau dîm bellach  gyda Glasgow wedi chwarae dwy gêm yn llai.

.

Glasgow

Cais: Tommy Seymour 76’

Ciciau Cosb: Duncan Weir 49’, 59’

.

Gweilch

Ciciau Cosb: Dan Biggar 20’, 66’

Gôl Adlam: Dan Biggar 73’