Mae sibrydion ar led fod Tottenham Hotspur yn ceisio denu amddiffynnwr a chapten Caerdydd Steven Caulker yn ôl i White Hart Lane.  Daw hyn yn dilyn amheuon am gytundebau yr amddiffynnwr Jan Vertonghen a Younes Kaboul gyda Spurs.

Yr oedd Caulker, sy’n 22, yn aelod o garfan Lloegr ar gyfer eu gêm gyfeillgar ddiweddar yn erbyn Denmarc yn Wembley.  Fe wnaeth y cyn-reolwr Malky Mackay ei arwyddo o Spurs yn Haf 2013 am £8 miliwn, a oedd yn record i’r clwb ar y pryd.

Mae wedi chwarae 30 o gemau ac mae ei ddoniau fel arweinydd wedi bod yn amlwg yn ystod y tymor.  Hefyd fe wnaeth sgorio dwy gôl ym muddugoliaeth Caerdydd 3-1 gartref yn erbyn Fulham.  Cafodd Caulker ei eni yn Llundain gan chwarae i dîm cyntaf Tottenham pan oedd yn 17 oed.

Fe wnaeth rheolwr presennol Spurs, Tim Sherwood, chwarae rhan bwysig yn ei ddatblygaid  cynnar ac mae ganddo gryn feddwl ohono fel chwaraewr.