Mae yna gêm enfawr i’r Gweilch heno yn erbyn Glasgow yng nghystadleaeth y Pro12. Ar hyn o bryd mae’r Gweilch yn y pedwerydd safle gyda Glasgow yn y pumed safle.
Nid yw’r blaenwr Ryan Jones na’r canolwr Ashley Beck wedi eu dewis i garfan y Gweilch. Mae James King yn cymryd lle Jones yn yr ail reng ac mae Hanno Dirksen yn cadw ei le ar ôl dod i’r cae yn lle Beck yn y fuddugoliaeth 34-9 yn erbyn y Gleision.
Mi wnaeth Jones a Beck ddioddef anafiadau yn y gêm honno. Mae gan y Gweilch 51 o bwyntiau, pedwar yn fwy na Glasgow ond mae’r tîm o’r Alban wedi chwarae dwy gêm yn llai. Mae hyfforddwr blaenwyr y Gweilch Chris Gibbes yn cydnabod bod hon yn gêm allweddol.
‘‘Os y cawn ganlyniad da byddwn yn symud ymlaen, os y caiff Glasgow canlyniad byddant yn cau y bwlch, ac yr ydym yn disgwyl gêm gystadleuol iawn,’’ dywedodd Gibbes.
Glasgow oedd y buddugwyr o 28-16 pan ddaethant i’r Liberty ym mis Tachwedd.
‘‘Yr oeddwn yn rheoli y gêm honno am 65 munud, ac yna fe wnaethom ormod o gamgymeriadau ac fe wnaethant el war hynny,’’ ychwanegodd Gibbes.
Aaron Jarvis fydd yn gwisgo’r crys rhif 3, am yr ail gêm yn olynol gyda Adam jones ar y fainc. Mae yna amheuaeth wedi bod am ddyfodol Jones sy’n 33 oed gyda’r Gweilch. Nid oes sicrwydd a fydd yn arwyddo cytundeb gyda’r Gweilch neu cytundeb canolog gyda Undeb Rygbi Cymru.
Mi fydd y gêm yn fyw ar BBC 2 Cymru (7:35 y.h)
Tîm y Gweilch
Olwyr – Sam Davies, Jeff Hassler, Hanno Dirksen, Jonathan Spratt, Aisea Natoga, Dan Biggar a Rhys Webb.
Blaenwyr – Duncan Jones, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, James King, Alun Wyn Jones (Capten), Sam Lewis, Dan Baker a Justin Tipuric.
Eilyddion – Scott Otten, Nicky Smith, Adam Jones, Tyler Ardron, Morgan Allen, Joe Bearman, Tom Habberfield a Richard Fussell.