Aled Brew
Roedd hi’n benwythnos chwerw felys i Aled Brew draw yn Ffrainc dros y penwythnos, wrth i’r Cymro dirio cais agoriadol Biarritz ond yna gweld ei dîm yn colli, a chwympo o’r brif adran yn y broses.

Llwyddodd cais Brew i roi Biarritz, oedd hefyd wedi cynnwys Ben Broster yn eu tîm, ar y blaen yn erbyn Perpignan, cyn i gais Richard Haughton a throsiad James Hook unioni’r sgôr yn 10-10 ar yr egwyl.

Ond yn yr ail hanner fe gipiodd Perpignan y fuddugoliaeth diolch i ddwy gic gosb gan Hook gan ennill 16-10, canlyniad sydd yn golygu bod Biarritz yn cwympo o’r Top 14 gyda phedair gêm yn weddill, ar ôl deunaw mlynedd yn y gynghrair.

Lwcus felly, efallai, nad yw Brew yn aros gyda’r tîm ar ôl arwyddo cytundeb i ailymuno â’r Dreigiau’r tymor nesaf.

Fe sgoriodd Jamie Roberts gais agoriadol ei dîm dros y penwythnos hefyd, ond yn wahanol i Brew dod â’i dîm yn gyfartal oedd camp y canolwr.

Wedi i Grenoble gipio’r fantais gynnar daeth cais Roberts â Racing Metro yn hafal ar bwyntiau, eto’n 10-10, cyn i Mike Phillips ymuno â Roberts ar y cae yn yr ail hanner wrth i’r tîm o Baris fynd ymlaen i selio buddugoliaeth o 26-13.

Fe welodd Lee Byrne ei dîm yn ennill hefyd wrth i Clermont drechu Toulon 22-16, canlyniad enfawr yng nghyd-destun y tabl sy’n golygu bod tîm Byrne yn codi dros eu gwrthwynebwyr ar y penwythnos ac i frig y Top 14.

Yng nghynghrair Lloegr parhaodd Owen Williams i ddangos pam fod rhai’n galw ar Gatland i roi cyfle iddo yng nghrys rhif 10 Cymru, gyda pherfformiad taclus arall i Gaerlŷr.

Llwyddodd y Cymro i drosi dwy gais a thair cic gosb (gan fethu tair cic am y pyst hefyd), yn ogystal â chreu pedwerydd cais Caerlŷr am y pwynt bonws, cyn cael ei eilyddio wrth i’w dîm sicrhau buddugoliaeth gyfforddus o 45-15 dros Phil Dollman a Chaerwysg.

Collodd Northampton rhagor o dir ar Saracens yn y ras ar frig y gynghrair ar ôl colli i Sale o 19-6, gyda thîm George North dan yn ail ond bellach ddeg pwynt y tu ôl i’r brig.

Roedd cynrychiolaeth y Cymry’n gryf yn nhîm Sale, gydag Eifion Lewis-Roberts, Dwayne Peel, Marc Jones a Jonathan Mills yn dechrau a Nick MacLeod ar y fainc.

Sicrhaodd Caerfaddon fuddugoliaeth swmpus o 44-23 yn erbyn Gwyddelod Llundain i aros yn drydydd yn y tabl, gyda Paul James a Gavin Henson yn nhîm yr enillwyr a Darren Allinson ac Andy Fenby ymysg y gwrthwynebwyr.

Ond yng Nghaerloyw oedd y wledd fwyaf o bwyntiau, wrth i’r tîm cartref drechu Newcastle 40-33 yn y frwydr yng ngwaelodion y tabl, gyda Martyn Thomas, Will James a Warren Fury i gyd yn chwarae rhan.

A cholli oedd hanes Jonathan Thomas a Chaerwrangon unwaith eto wrth i Wasps eu trechu 13-11 – colled rhif 17 mewn 17 gêm.

Seren yr wythnos: Jamie Roberts – ei gais ef yn llusgo Racing Metro yn ôl i’r gêm.

Siom yr wythnos: Jonathan Thomas – ei dîm yn wirioneddol wynebu’r posibiliad o golli pob un o’u gemau cynghrair mewn tymor.