Ryan Jones
Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi bod yr wythwr a blaenasgellwr, Ryan Jones, wedi arwyddo i Fryste.
Mae Ryan Jones, 33, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda’r clwb a bydd yn symud yno ar ddiwedd y tymor.
Mae Ryan Jones wedi treulio 10 mlynedd gyda’r Gweilch ac mae wedi chwarae dros y rhanbarth 147 o weithiau.
Mae hefyd wedi bod yn gapten ar dîm Cymru 33 o weithiau ac wedi ennill 75 o gapiau i’w wlad a 3 o gapiau gyda’r Llewod.
Dywedodd Ryan Jones mai dyma un o’r penderfyniadau anoddaf mae o erioed wedi gorfod ei wneud.
Meddai: “Gyda dim ond blwyddyn ar ôl ar fy nghytundeb gyda’r Gweilch, mae’r cytundeb yma gyda Bryste’n rhoi mwy o ddiogelwch i mi wrth gynnig sialens newydd.”