Dreigiau Casnewydd Gwent 8–24 Connacht

Colli gartref fu hanes y Dreigiau yn y RaboDirect Pro12 brynhawn Sul wrth i Connacht ymweld â Rodney Parade.

Roedd pac y Gwyddelod yn llawer cryfach na’r tîm cartref a deilliodd eu pedwar cais o sgarmesau symudol.

Y Dreigiau a gafodd y pwyntiau cyntaf gyda chic gosb Jason Tovey wedi dim ond dau funud ond aeth Connacht ar y blaen pan diriodd John Muldoon gais cyntaf y gêm.

Dilynodd ail gais i Rodney Ah You yn fuan wedyn ac roedd y Gwyddelod ar y blaen o 14-3 yn dilyn dau drosiad Dan Parks.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond roedd y Dreigiau dipyn gwell yn yr ail hanner. Y Cymry a gafodd y mwyafrif o’r tir a’r meddiant ond wnaeth hynny ddim troi’n bwyntiau.

Connacht yn hytrach a gafodd y pwyntiau nesaf wrth i Muldoon dorri o gefn sgarmes symudol arall i sgorio ei ail gais ef a thrydydd ei dîm.

Tarodd Tom Prydie yn ôl gyda chais i’r Dreigiau ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi a sicrhaodd Connacht y pwynt bonws pan groesodd Michael Swift am bedwerydd cais yn symudiad olaf y gêm.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Dreigiau yn nawfed yn nhabl y Pro12. Mae Connacht ar y llaw arall yn codi i’r seithfed safle.

.

Dreigiau

Cais: Tom Prydie 69’

Cic Gosb: Jason Tovey 2’

Cerdyn Melyn: Robert Sidoli 22’

.

Connacht

Ceisiau: John Muldoon 17’, 67’, Rodney Ah You 23’, Michael Swift 79’

Trosiadau: Dan Parks 18’, 24’

Cerdyn Melyn: Darragh Leader 68’