Glasgow 14–6 Scarlets

Colli fu hanes y Scarlets yn erbyn Glasgow yn y RaboDirect Pro12 ar noson siomedig yn Scotstoun nos Sadwrn.

Roedd hi’n gêm warthus ond roedd Glasgow fymryn yn well na’r Scarlets trychinebus.

Glasgow a gafodd y gorau o’r chwarter cyntaf ac roeddynt chwe phwynt ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf diolch i ddwy gic gosb o droed Duncan Weir.

Hanerodd cic gosb Olly Barkley y fantais honno wedi hynny cyn i Niko Matawalu groesi am y cais agoriadol i’r tîm cartref.

Yr asgellwr o Fiji oedd yr unig chwaraewr cyffrous ar y cae ac fe holltodd trwy’r amddiffyn ar ongl dda wedi i sgrym bump yr Albanwyr osod sylfaen cadarn.

Methodd Weir y trosiad ond roedd Glasgow ar y blaen o 11-3 ar yr egwyl.

Dechreuodd yr ail gyfnod gyda thri phwynt arall o droed Weir ond roedd y bwlch yn ôl i wyth eto yn dilyn ail gic lwyddiannus Barkley, 14-6 gyda hanner awr i fynd.

Ychydig iawn a gynigodd y Scarlets wedi hynny tan y munudau olaf un pan arweiniodd bylchiad Jordan Williams at gic gosb i’r Scarlets. Byddai honno wedi achub pwynt bonws i Fois y Sosban ond methu fu hanes Aled Thomas yn y gwynt a’r glaw.

Mae’r canlyniad yn cadw Glasgow’n bumed a’r Scarlets yn chweched yn nhabl y Pro12 ond mae’r bwlch rhyngddynt bellach yn un pwynt ar ddeg.

.

Glasgow

Cais: Niko Matawalu 31’

Ciciau Cosb: Duncan Weir 8’, 21’, 43’

.

Scarlets

Ciciau Cosb: Olly Barkley 26’, 50’