Gweilch 34–9 Gleision Caerdydd


Cafwyd perfformiad pum seren gan y Gweilch wrth iddynt chwalu’r Gleision ar y Liberty yn y RaboDirect Pro12 nos Wener.

Sgoriodd y tîm cartref bum cais, gan gynnwys tri i’r asgellwr, Aisea Natoga, ar noson siomedig iawn arall i’r Gleision.

Hanner Cyntaf

Y Gweilch a gafodd y gorau o’r deg munud cyntaf ac roeddynt yn haeddu mynd ar y blaen pan groesodd Ashley Beck am y cais agoriadol, 7-0 yn dilyn trosiad Dan Biggar.

Caeodd Gareth Davies y bwlch gyda chic gosb i’r Gleision ond roedd y Gweilch wedi croesi am ail gais o fewn munudau. A chais da ydoedd hefyd, ciciodd Rhys Webb y bêl heibio i’r amddiffyn a llwyddodd Natoga i’w rheoli â’i droed cyn tirio, 12-3 i’r Gweilch hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Arhosodd y Gleision yn y gêm gyda dwy gic gosb arall o droed Davies ond y Gweilch oedd yn llwyr reoli ac roeddynt wedi sgorio trydydd cais erbyn hanner amser. Natoga oedd y sgoriwr yn y gornel chwith unwaith eto, yn dilyn pas wych gan Sam Davies y tro hwn, 17-9 y sgôr ar yr egwyl.

Ail Hanner

Dilynodd yr ail hanner batrwm tebyg iawn wrth i’r tîm cartref barhau i lwyr reoli, ac roedd y pwynt bonws yn ddiogel wedi dim ond wyth munud o’r ail gyfnod. Mewnwr Cymru, Webb, a gafodd y cais hwnnw ar ôl dangos dyfalbarhad i hyrddio a throelli ei ffordd dros y llinell.

Ychwanegodd Biggar y trosiad ac yna chic gosb i roi deunaw pwynt rhwng y ddau dîm gydag ugain munud i fynd.

Distawodd y gêm wedi hynny ond roedd digon o amser ar ôl i Natoga gwblhau ei hatric a choroni buddugoliaeth y Gweilch. Gwnaeth y gŵr o Fiji yn rhyfeddol i dirio yn y gornel er gwaethaf ymdrech cefnwr y Gleision, Dan Fish, i’w daclo.

34-9 yn dilyn trosiad Biggar ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd. Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch yn bedwerydd yn nhabl y Pro12, tra mae’r Gleision yn aros yn ddegfed.

.

Gweilch

Ceisiau: Ashley Beck 10’, Aisea Natoga 16’, 29’, 70’, Rhys Webb 48’

Trosiadau: Dan Biggar 11’, 49’, 71’

Cic Gosb: Dan Biggar 52’

.

Gleision Caerdydd

Ciciau Cosb: Gareth Davies 13′, 21′, 27′