Dim ond chwe gêm yn unig sydd ar ôl y tymor hwn ac fe fydd y Scarlets am ddod o’r Alban gyda’r pwyntiau yn erbyn Glasgow sy’n bumed yn y Pro12.

Fe fydd y Scarlets yn croesawu’r chwaraewr rhyngwladol nôl ar gyfer y gêm.  Fe fydd seren y gêm yn erbyn Yr Alban, Liam Williams yn safle’r cefnwr, gyda’r bachwr Ken Owens a’r prop Samson Lee nôl yn y rheng-flaen a’r Llew Jonathan Davies fydd yn arwain y rhanbarth o’r gorllewin yn safle’r canolwr yfory.

‘‘Roedd hi’n braf cael clywed bod y bechgyn yn edrych ymlaen at y gêm ar ôl chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, rydym yn gobeithio y gallan nhw roi hwb i’r garfan sydd wedi chwarae’n dda yn ddiweddar,’’ meddai Simon Easterby, rheolwr y Scarlets.

Wedi tirio 10 cais y tymor hwn ac ar frig y sgorwyr ceisiau cyn belled mae’r mewnwr Gareth Davies wedi derbyn canmoliaeth gan reolwr y Scarlets.

‘‘Mae wedi bod yn arbennig i ni, rwy’n siwr bod Gareth wedi siomi braidd na chafodd yr alwad gan Gymru. Ond mae wedi bod yn gadarn i ni ac wedi canolbwyntio ar ei gêm ac yn benderfynol o wneud ei orau i ni,’’ ychwanegodd Easterby.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Liam Williams, Kristian Phillips, Jonathan Davies Capten, Olly Barkley, Jordan Williams, Aled Thomas a Gareth Davies.

Blaenwyr – Phil John, Ken Owens, Samson Lee, George Earle, Johan Snyman, Josh Turnbull, John Barclay a Sione Timani.

Eilyddion – Emyr Phillips, Rob Evans, Rhodri Jones, Jake Ball, Richard Kelly, Rhodri Williams, Adam Warren a Gareth Maule.