Darcy Blake
Mae tîm pêl-droed Casnewydd wedi datgan eu bod yn hapus iawn o fod wedi arwyddo chwaraewr rhyngwladol Cymru Darcy Blake hyd ddiwedd y tymor.
Mae’r amddiffynnwr wedi ennill 14 o gapiau i Gymru gan gynnwys yr un gofiadwy yn erbyn Lloegr yn Wembley yng nghystadleuaeth Euro 2012. Fe wnaeth Darcy, sy’n enedigol o Gaerffili, ddechrau ei yrfa gyda Chaerdydd gan chwarae dros 90 o gemau i’r clwb cyn symud i Crystal Palace yn Awst 2012.
Fe wnaeth chwarae deg gêm iddynt gan helpu Crystal Palace i ddyrchafiad y tymor diwethaf. Fe ddaeth cytundeb o’r ddwy ochr a’i yrfa gyda’r clwb o Lundain i ben fis Ionawr eleni. Ers hynny mae Blake wedi bod yn ymarfer gyda Birmingham City sy’n y Bencampwriaeth.
‘‘Yr wyf yn ddiolchgar i Justin Edinburgh ac i glwb Casnewydd am ddangos ffydd yn fy ngallu gan fy arwyddo hyd ddiwedd y tymor,” meddai Blake.
“Yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr i chwarae dros y clwb. Mae yna 10 gêm i’w chwarae ac rwyf yn gobeithio chwarae rhyw ran yn y gêm yn erbyn Torquay ddydd Sadwrn.”