Mi fydd y clo rhyngwladol Andrew Coombs yn dychwelyd i’r Dreigiau wrth iddynt groesawu Connacht i Rodney Parade brynhawn dydd Sul.

Un ymddangosiad yn unig mae’r Capten wedi gwneud yn ystod ei ddyletswydd rhyngwladol, pan y bu iddo helpu’r Dreigiau i guro Glasgow.  Mi fydd un ar ddeg newid i’r tîm a gollodd yn erbyn Ulster yn Ravenhill.

Mi fydd y cefnwr Daniel Evans yn dychwelyd ar ôl cael ei wahardd am bum wythnos oherwydd tacl peryglus tra’n chwarae’r Newcastle Falcons.

‘‘Rwyf wedi bod yn ymarfer yn galed yn ystod yr wythnosau diwethaf ac rwy’n hynod o falch i fod ar y cae y penwythnos yma.  Gobeithio y gallaf ddod a rhywfaint o egni i’r gêm,’’ meddai Dan Evans.

‘‘Mae’n wych i gael y bechgyn nôl o’r garfan rhyngwladol, mi oedd hi’n Bencampwriaeth anodd iddyn nhw ond fe wnaethon nhw orffen yn gadarn.  Maent yn chwaraewyr allweddol i ni ac yn ddylanwadol iawn pan fyddant yn chwarae,’’ ychwanegodd Evans.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Daniel Evans, Tom Prydie, Ross Wardle, Jack Dixon, Will Harries, Jason Tovey a Richie Rees.

Blaenwyr – Owen Evans,  Hugh Gustafson, Bruce Douglas, Andrew Coombs (Capten), Rob Sidoli, Lewis Evans, Nic Cudd a Netani Talei.

Eilyddion – Elliot Dee, Phil Price, Duncan Bell, Matthew Screech, Taulupe Faletau, Wayne Evans, Ashley Smith a Matthew Pewtner.