Mae golwg360 wedi bod yn rhoi sylw i dîm chwaraeon lleol bob wythnos, gan ddod i nabod rhai o’r cymeriadau ac edrych ymlaen at eu gêm ar y penwythnos. Yr wythnos hon tîm Clwb Rygbi Aberystwyth sydd o dan sylw wrth iddyn nhw baratoi i herio Trebanos.
Proffil y Clwb
Lliwiau: Glas golau a thywyll
Cynghrair: Adran Dau (Gorllewin) Cynghrair SWALEC
Rheolwr: Raymond Evans
Prif Hyfforddwr: Alwyn Davies
Hyfforddwyr: Huw Griffiths & Ifan Evans
Capten: Prys Lewis
Gyda Phencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ben unwaith eto fe fydd sêr rygbi Cymru’n dychwelyd i’w clybiau a’u rhanbarthau nawr am weddill y tymor.
Ac fe fydd clybiau ledled Cymru hefyd yn dychwelyd i’r meysydd chwarae’r penwythnos hwn ar ôl seibiant yn ystod y Chwe Gwlad, gyda’n Tîm yr Wythnos ni, Aberystwyth, yn paratoi i herio Trebanos.
Yn ail adran (gorllewin) cynghrair SWALEC y mae Aberystwyth yn chwarae ar hyn o bryd, ers iddyn nhw gael dyrchafiad yno o’r drydedd adran yn 2009.
Sefydlwyd y clwb nôl yn 1947, gan ddod yn aelodau llawn o Undeb Rygbi Cymru yn 1954, ac mae adeilad y clwb wedi sefyll ar y safle ym Mhlascrug ers yr 1970au.
Llynedd fe lwyddon nhw i orffen yn wythfed yn y tabl allan o’r 12 tîm, un yn is na’u safle gorau erioed yn y gynghrair.
Er nad ydyn nhw’n gwneud cystal eleni maen nhw’n parhau i fod yn gystadleuol yn y gynghrair, ac yn 10fed ar ôl pymtheg gêm o’r tymor.
Ac mae ganddyn nhw gêm fawr iawn gartref ar ddydd Sadwrn, gyda thîm Trebanos, sydd un safle’n uwch na nhw yn y gynghrair, yn ymweld ag Aberystwyth.
Dyma glip o’r tîm yn ymarfer, a chwestiynau i’r hyfforddwyr Huw Griffiths ac Ifan Evans:
Tîm Aberystwyth vs Trebanos – Geraint Rowlands, Gareth Flynn, Tom Pluck, Robbie Parry, Eifion Hughes, Bryn Shepherd, Chris Randall, Daniel Binks; Llŷr Thomas, Owain Aled, Matthew Evans, Paul Stubbs, Steff Rees, Shaun Lewis, Ian Ellis
Eilyddion – Ifan Thomas, Steff Bonsall, Billy Williams, Lee ‘Truck’ Evans
Os hoffech chi fod yn Dîm yr Wythnos ar golwg360, cysylltwch â ni!