Cwpan y Bytd
Fe fydd Cymru’n cael ei hannog i fod yn rhan o gais i gynnal cystadleuaeth Pencampwriaeth Ewrop yn 2020.

Yn ôl Prif Weinidog Prydain, David Cameron, mae am weld awdurdodau pêl-droed gwledydd Prydain yn ennill pecynnau i gynnal gêmau.

Ond mewn cyfweliad gyda phapur y Sun, mae hefyd wedi awgrymu bod twyll y tu cefn i’r penderfyniad i fynd â Chwpan y Byd i Rwsia yn 2018.

Methu a wnaeth ymgais Lloegr i gynnal y bencampwriaeth ac, yn ôl David Cameron, roedd rhaid iddo ddewis ei eiriau’n ofalus ond roedd yn amau bod y canlyniad wedi ei “sortio” ymlaen llaw,

Roedd llawer o wledydd wedi addo cefnogi Lloegr, meddai, ond dim ond un bleidlais gafodd hi yn y pen draw.

Roedd yn credu y byddai’r broses o benderfynu ar yr Euros yn fwy teg.