Leigh Halfpenny
Bydd Cymru yn chwarae gem olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban penwythnos nesaf heb Leigh Halfpenny.

Mae’n debyg y bydd y cefnwr, a sgoriodd holl bwyntiau Cymru ddoe, allan am weddill y tymor wedi iddo roi ei ysgwydd o’i lle yn y grasfa gan Loegr yn Twickenham.

“Mae Leigh wedi tynnu ei ysgwydd o’i lle, felly rwy’n credu y bydd o allan am weddill y tymor,” meddai hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

Ac wedi i’r maswr Rhys Webb hefyd adael y cae ddoe oherwydd anaf, mae’n golygu y bydd o leiaf dau newid pan fydd Gatland yn enwi’r tîm i wynebu’r Alban yfory.

Mae’n debygol y bydd newidiadau eraill hefyd,  gyda’r maswr Rhys Priestland a’r prop Gethin Jenkins ymhlith y rhai sy’n debygol o golli eu lle gan fod perfformiad Cymru ddim digon da.