Declan John
Chwaraeodd Declan John gêm lawn wrth i Gaerdydd sicrhau buddugoliaeth allweddol o 3-1 yn erbyn Fulham, canlyniad all fod yn sbardun enfawr i’w tymor yn yr Uwch Gynghrair.

Ond doedd hi ddim yn brynhawn cystal i Joe Ledley a Crystal Palace, gyda’u colled nhw o 1-0 yn erbyn Southampton yn eu gadael nhw dau bwynt yn unig uwchben y safleoedd disgyn.

Cododd Real Madrid yn ôl i frig cynghrair La Liga gyda buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 dros Levante, gyda Gareth Bale yn chwarae 90 munud ar ôl ei orchestion gyda Chymru yng nghanol yr wythnos.

Rhoys Wiggins a Simon Church oedd yr unig ddau Gymro i chwarae yn rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr dros y penwythnos, ond siom gawson nhw wrth i Charlton gael eu trechu 2-0 gan Sheffield United.

Yn y Bencampwriaeth Steve Morison oedd y seren i Millwall wrth iddyn nhw gipio buddugoliaeth annisgwyl i ffwrdd yn erbyn Derby, y Cymro’n rhwydo unig gôl y gêm gyda pheniad yn yr ail hanner.

Sgorio’r ail wnaeth David Cotterill wrth i Doncaster guro Huddersfield 2-0, gyda’i gic gornel hefyd yn cyfrannu at gôl gyntaf ei dîm.

Llwyddodd Burnley a Sam Vokes i ddod yn ôl ac ennill eu darbi yn erbyn Blackburn o 2-1 – er bod Vokes wedi gadael y maes â Blackburn yn dal ar y blaen. Chwaraeodd Adam Henley gêm lawn i’r gwrthwynebwyr.

Chwaraeodd Chris Gunter a Hal Robson-Kanu gêm lawn i Reading wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Brighton, gyda Gunter penio i’w rwyd ei hun ond yna’n creu gôl Royston Drenthe a unionodd y sgôr.

Colli 2-0 oedd hanes Emyr Huws a Birmingham, gartref i QPR, ac ymddangosiad oddi ar y fainc am 20 munud gafodd Jonathan Williams wrth i Ipswich golli 2-0 hefyd i Middlesbrough.

Yng Nghyngrair Un colli 3-1 i Stevenage wnaeth Tranmere, gydag Owain Fôn Williams, Jason Koumas, Ash Taylor a Jake Cassidy i gyd yn chwarae 90 munud.

Ac fe gafodd Sam Ricketts gêm lawn i Wolves hefyd wrth iddyn nhw gadw llechen lan a churo Walsall yn gyfforddus o 3-0.

Seren yr wythnos: Steve Morison – gol fuddugol annisgwyl i Millwall.

Siom yr wythnos: Chris Gunter – peniad anffodus i’w rwyd ei hun wedi creu trafferth i Reading.