Lloegr 29–18 Cymru

Mae gobeithion Cymru o gipio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am y trydydd tro yn olynol drosodd yn dilyn buddugoliaeth haeddianol i Loegr yn Twickenham brynhawn Sul.

Wnaeth Cymru ddim ymddangos yn debygol o sgorio cais trwy gydol y gêm mewn gwirionedd a bu rhaid iddynt ddibynnu ar gicio cywir Leigh Halfpenny i roi gwedd gymharol barchus ar y sgôr terfynol.

Roedd Lloegr ar y blaen wedi dim ond pum munud ar ôl i Gymru amddiffyn mewn ffordd na fyddai’n dderbyniol mewn gêm Rygbi’r Ddraig rhwng dau dîm ysgol gynradd. Dyfarnwyd cic gosb i Loegr yng nghysgod y pyst, Trodd Lydiate, Feletau, Hibbard ac eraill eu cefnau ac fe lonciodd Danny Care drosodd am gais. Chwerthinllyd.

Dangosodd Cymru fymryn fwy o awch wedi hynny a llwyddodd Halfpenny i’w cadw yn y gêm yn yr hanner awr cyntaf. Cyfnewidiodd cefnwr Cymru ddwy yr un gydag Owen Farrell cyn trosi trydedd i ddod â’r sgôr o fewn pedwar pwynt gyda dim ond ychydig funudau i fynd tan hanner amser.

Yna, daeth ail gais y Saeson, a chais da ydoedd hefyd. Mesurodd Billy Twelvetrees ei gic i’r gornel yn berffaith a chyrhaeddodd Luther Burrell y bêl cyn Halfpenny i dirio.

20-9 i Loegr felly ond roedd Cymru yn ôl yn y gêm cyn yr egwyl diolch i ddwy gic gosb gyflym gan Halfpenny, 20-15 ar hanner amser.

Digon diflas oedd yr ail hanner o’i gymharu â’r cyntaf mewn gwirionedd. Trosodd Halfpenny dri phwynt arall i gymru ond aeth Farrell â’r gêm o afael yr ymwelwyr gyda thair cic gosb i’r tîm cartref.

Bu bron i Burrell orffen symudiad gwirioneddol wych i Loegr gyda chais ond cafodd ei atal gan dacl dda Halfpenny.

Ond roedd Lloegr wedi gwneud hen ddigon yn yr hanner cyntaf a doedd gan Gymru ddim i’w gynnig wrth i’r gêm orffen braidd yn ddi fflach, 29-18.

Mae’r canlyniad yn rhoi Cymru allan o’r Bencampwriaeth am eleni. Mae Lloegr dal ynddi gydag Iwerddon a Ffrainc, ond y Gwyddelod sydd â’r fantais o ran gwahaniaeth pwyntiau cyn y penwythnos olaf.

.

Lloegr

Ceisiau: Danny Care 6’, Luther Burrell 34’

Trosiadau: Owen Farrell 6’, 34’

Ciciau Cosb: Owen Farrell 19’, 27’, 46’, 55’, 59’

.

Cymru

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 9’, 13’, 31’, 38’, 40’, 57’

Cerdyn Melyn: Gethin Jenkins 53’