Mae’r canolwr Jonathan Spratt wedi arwyddo cytundeb newydd o ddwy flynedd gyda’r Gweilch.

Yn ystod y gemau rhyngwladol mae Spratt wedi bod yn arwain y Gweilch mewn nifer o’r gemau ac wedi ymrwymo i’r rhanbarth lle ddechreuodd ei yrfa rygbi.

“Mae gyda ni gyfuniad o chwaraewyr profiadol yn ogystal â chwaraewyr ifanc, sy’n wirioneddol gyffrous,” meddai Jonathan Spratt. “Rwy’ i wrth fy modd i fod yn rhan o’r garfan yma am y ddwy flynedd nesa’.

‘‘Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi a sicrhau nifer o enwau mawr y clwb ar gyfer y tymor nesaf, mae hynny yn beth arbennig.”

Yn ddiweddar fe wnaeth y Gweilch sicrhau dyfodol y clo Alun Wyn Jones, y canolwr Ashley Beck a’r asgellwr Eli Walker. Maen nhw hefyd wedi cadarnhau y bydd cefnwr y Dreigiau, Dan Evans, a’r bachwr Sam Parry yn ymuno â’r Gweilch, ynghyd â chanolwr y Worcester Warriors, Josh Matavesi.