Elinor Barker, canol, yn ennill medal yn 2012 (Llun: PA)
Mae beicwraig 19 oed o Gaerdydd yn aelod o’r tim a gipiodd fedal aur ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Ne America ddoe.
Roedd Elinor Barker, ynghyd â Joanna Rowsell, Laura Trott a Katie Archibald, yn fuddugol yn y ras ar gyfer timau ar ail ddiwrnod y cystadlu yng Ngholombia.
“Roedd y ras ola’n un glos iawn,” meddai Elinor Barker, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Llanisien yn y brifddinas. “Fe fu bron iawn i fy nghoesau roi’r gorau i weithio ar y lap ola’!”
Ond ym Mhencampwriaethau’r Byd ar gyfer beiwyr trac, mi fethodd Becky James, y feicwraig 22 oed o’r Fenni, â sicrhau medal o gwbwl, wrth ddod yn seithfed yn y ras 500m i ferched.