Darren Edwards
Mae Prif Hyfforddwr y Dreigiau, Darren Edwards, wedi cyhoeddi ei fod yn gadael y rhanbarth er mwyn paratoi am ei ‘her nesaf’.

Mewn datganiad heddiw fe gyhoeddodd y rhanbarth fod Edwards yn gadael ei swydd yn syth, gyda’r hyfforddwr yn dweud ei fod am dreulio ychydig o amser gyda’i deulu nes diwedd y tymor cyn symud ymlaen i’w swydd nesaf.

Fe ymunodd Edwards â’r Dreigiau yn 2009 fel hyfforddwr olwyr i Paul Turner, cyn cymryd yr awenau fel Prif Hyfforddwr pan adawodd Turner yn 2011.

Wrth gyhoeddi’i ymadawiad fe ddywedodd Edwards ei fod yn teimlo bod ei gyfnod gyda’r Dreigiau wedi dod i ben.

“Ar ôl pum tymor mae fy nghyfnod gyda’r Dreigiau wedi dod i ben,” meddai Darren Edwards. “Rwyf wedi mwynhau fy amser yma yn gweithio gyda chwaraewyr gwych.

“Mewn chwaraeon proffesiynol mae’n bwysig i wthio’ch hunain a datblygu ac rwyf wedi penderfynu mai dyma’r amser i wneud hynny.

“Mewn cytundeb â’r Dreigiau rwy’n gadael ar y pwynt yma o’r tymor, gan y bydd yn fy ngalluogi i dreulio amser gyda’m gwraig a meibion ifanc cyn symud ymlaen i’m sialens nesaf.”

Talwyd teyrnged i waith Edwards gan y Cyfarwyddwr Rygbi Lyn Jones a Phrif Weithredwr y rhanbarth Gareth Davies, gyda’r ddau yn dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol. Mae’r Dreigiau yn seithfed yng Nghynghrair y Rabo Pro 12 ar hyn o bryd ar ôl eu buddugoliaeth dros Glasgow y penwythnos diwethaf.