Vincent Tan (Jon Candy CCA 2.0)
Mae perchennog clwb pêl-droed Caerdydd wedi mynnu mai lleiafrif o gefnogwyr sy’n ei wrthwynebu.
Ond mae Vincent Tan hefyd yn honni bod yna elfen o “hiliaeth” yn agwedd y wasg Brydeinig tuag ato. Mae’n dweud eu bod yn ceisio gwneud hwyl am ei ben.
Mewn cyfweliad gyda’r BBC, mae wedi parhau i feio’r cyn reolwr Malky Mackay am drafferthion y clwb, trwy arwyddo chwaraewyr israddol, ac mae’n dweud y bydd y rheolwr newydd, Ole Gunnar Solskjaer, yn cadw’r clwb yn yr Uwch Gynghrair.
‘Ychydig gannoedd’ yn erbyn
Mae tua 90% o gefnogwyr yn ei gefnogi, meddai’r gŵr busnes o Wlad Thai, sydd wedi cythruddo rhai selogion trwy newid lliwiau a logo’r clwb ac wedyn trwy gael gwared ar Mackay.
Ond dim ond lleiafrif “efallai ychydig gannoedd” sy’n ei wrthwynebu o hyd, meddai.
Mae wedi rhybuddio y gallai droi cefn ar y clwb os na fydd yn cael cefnogaeth ac yn dweud mai ei arian sydd wedi achub Caerdydd a’i godi i’r Uwch Gynghrair.