Mae clwb rygbi Caerwysg wedi cyhoeddi bod y cyn faswr rhyngwladol, Ceri Sweeney, wedi arwyddo cytundeb newydd o flwyddyn gyda’r clwb.

Ymunodd Sweeney, 34 oed, gyda’r clwb dros yr haf o Gleision Caerdydd.

‘‘Mae’n chwaraewr delfrydol i ni fel clwb.  Byddai’n gallu dechrau fel maswr, dod oddi ar y fainc mewn sefyllfa anodd neu hyd yn oed yn cael ei alw i arwain y tîm, mae ganddo nifer o sgiliau,’’ meddai prif hyfforddwr Caerwysg, Rob Baxter.

‘‘Bydd Ceri yn hyfforddi ychydig y flwyddyn hon, yn enwedig yn yr academi a datblygu unigolion fydd efallai yn ein carfan yn y blynyddoedd i ddod,’’ ychwanegodd Baxter.