Justin Tipuric
Mae’r chwaraewyr rhyngwladol, James King, Dan Biggar a Justin Tipuric yn dychwelyd i’r Gweilch, wedi cael eu rhyddhau gan Gymru,
‘‘Roedd nifer o’r chwaraewyr yn siomedig ac yn hynod o rwystredig a’r ôl chwarae Munster. Fe wnaethom gamgymeriadau heb eisiau, felly nid oedd hynny yn beth rhwydd i’w dderbyn,’’ meddai Steve Tandy, hyfforddwr y Gweilch.
‘‘Fodd bynnag mae’r bechgyn wedi bod yn ymarfer yn galed ac wedi dangos agwedd cadarnhaol yn ystod y sesiynau ymarfer. Mae’r gemau ail gyfle dal yn bosibl i ni ond mae’n rhaid bod yn gywir yn ein chwarae ar y cae a gwneud yn fawr o bob cyfle,’’ ychwanegodd Tandy.
Tîm y Gweilch
Olwyr – Richard Fussell, Jeff Hassler, Jonathan Spratt (Capten), Ashley Beck, Hanno Dirksen, Dan Biggar a Tito Tebaldi.
Blaenwyr – Duncan Jones, Scott Baldwin, Dan Suter, Tyler Ardron, James King, Sam Lewis, Justin Tipuric a Joe Bearman.
Eilyddion – Matthew Dwyer, Marc Thomas, Joe Rees, Dan Baker, Ryan Jones, Tom Habberfield, Sam Davies a Aisea Natoga