Jose Canas
Mae chwaraewr canol cae Abertawe Jose Canas yn credu y gall Abertawe fod yn fuddugol yn Stadio San Paolo heno a pharhau yn y gystadleuaeth.
Napoli yw’r ffefrynnau i barhau ar ôl y gêm ddi sgôr yn y cymal cyntaf ar faes y Liberty yr wythnos diwethaf ond ar ôl perfformiad cadarn gan yr Elyrch mae Canas yn teimlo bod yna gyfle da i’r Elyrch i gyrraedd y 16 olaf.
‘‘Fe wnaethon ni chwarae’n dda er y byddem wedi hoffi sgorio. Mi fydd hi’n gamp aruthrol i’r clwb pe bawn yn ennill heno. Nid ni yw’r ffefrynnau ond mae gennym gyfle i ennill a byddwn yn gwneud ein gorau i wneud hynny,’’ meddai Canas.
‘‘Rwy’n disgwyl i’r gêm fod yn wahanol gan eu bod yn chwarae o flaen eu cefnogwyr ond mae angen i ni fod yn hyderus ac yn benderfynol i gwblhau’r dasg sydd o’m blaenau,’’ ychwanegodd Canas.
Ers ymuno ag Abertawe dros yr haf o’r clwb Real Betis, mae Canas wedi ymddangos mewn 31 o gemau i’r Elyrch.
‘‘Rwyf wrth fy modd yma, rwyf wedi addasu i’r wlad ac i arddull yr Uwch Gynghrair. Mae’r tîm yma’n glòs iawn ac mae’n dangos ar y cae ac yn ein perfformiadau,’’ dywedodd Canas.