Leigh Halfpenny
Mae Leigh Halfpenny wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen i gael chwarae gyda’i ffrind Liam Williams yn erbyn Ffrainc heno.

Daw Williams fewn i’r tîm ar yr asgell gan fod George North yn symud i’r canol.  Dyma fydd y gêm gyntaf i Williams chwarae o’r dechrau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

‘‘Mae’n dda gweld  Liam yn dechrau’r gêm, mae’n chwaraewr arbennig ac yr ydym yn ffrindiau da.  Mae’n un sy’n gweithio’n galed ar ei gêm ac yn chwaraewr dewr,” meddai Halfpenny.

‘‘Mae gennym garfan arbennig o chwaraewyr ac yr ydym yn benderfynol o roi perfformiad da ar ôl y siom yn erbyn Iwerddon.  Yr ydym wedi bod yn gweithio ar y gwahanol agweddau o’r gêm ac fe fydd y frwydr rhwng y canolwyr yn bwysig.  Mae George [North] yn gryf ac yn cario’r bêl yn dda.  Mae’n fraint cael gwisgo’r crys coch bob amser.  Rhaid cofio y gall Ffrainc greu rhywbeth o ddim a bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau trwy gydol y gêm,’’ ychwanegodd Halfpenny.