Mae prop Cymru Gethin Jenkins yn awyddus i brofi pwynt heno pan fydd Cymru yn croeawu Ffrainc i Stadiwm y Mileniwm.

Ar ôl y siom o golli yn Iwerddon bythefnos yn ôl mae’r prop yn ffyddiog y bydd Cymru yn barod am yr her heno.

‘‘Mae yna sawl peth wedi cael ei ddweud yr wythnos yma, mae angen i ni berfformio’n awr.  Roedd sawl un o’r garfan wedi cael siom ond rydym yn gwybod ein bod yn gallu’n chwarae’n well,’’ meddai Jenkins yn cyfeirio at y grasfa gan y Gwyddelod.

‘‘Mae angen i ni, y chwaraewyr profiadol yn y tîm, i osod y safon yn syth yn y gêm, a phan fydd pethau’n mynd o chwith, ni fydd yn gyfrifol i sicrhau y bydd popeth yn iawn.  Mae yna lawer o hyder ymysg y chwaraewyr ynglŷn â’r gêm ond mae angen i ni brofi hynny ar y cae.  Mae yna sawl gêm ar ôl ac rydym yn dal i fod yn y gystadleuaeth,’’ ychwanegodd Jenkins.