Rhys Webb
Bydd y mewnwr Rhys Webb yn dechrau i Gymru yn erbyn Ffrainc tua naw mis ar ôl iddo ddioddef anaf drwg i’w ben-glin.
Bu’n rhaid i chwaraewr y Gweilch gael llawdriniaeth ac nid oedd wedi rhagweld y byddai’n gwisgo crys y tîm Cenedlaethol mor fuan.
‘‘Nid oeddwn wedi rhagweld hyn pan gefais yr anaf. Yr oeddwn wedi gobeithio chwarae tua diwedd Ionawr ond mae staff y Gweilch wedi gweithio’n galed i sicrhau fy mod yn barod i chwarae.
“Yr wyf wedi ymarfer yn galed ac mae hwn yn achlysur arbennig i mi. Mae fy ffrindiau a’m teulu wedi bod yn arbennig ac yn gefn mawr ac fe fydd yn braf ei gweld yn y gêm. Mi fydd hi’n noson i wireddu breuddwyd i mi,’’ dywedodd Webb.