Roedd hi’n noson dda i Leinster neithiwr yn y Pro12, ac yn noson wael i’r Dreigiau.

Gyda bron i awr o chwarae wedi mynd heibio, roedd y Dreigiau ar y blaen o 16 pwynt i 10, a phethau’n edrych yn addawol.  Ond gyda Nathan Buck a Jevon Groves yn treulio cyfnodau yn y gell gosb oherwydd diffyg disgyblaeth, a Francisco Chaparro yn derbyn y garden goch am dacl peryglus, fe frwydrodd Leinster yn ôl i ennill y gêm.

Gan eu bod nhw wedi ennill pwynt bonws, mae Leinster yn awr yn cymryd lle Munster ar frig y Pro12.

Ashley Smith a Richie Rees wnaeth sgorio ddau gais y Dreigiau. Fe gafodd Leinster ddau gais cosb.