Mae’r stormydd a’r glaw diddiwedd wedi cael effaith ar chwaraeon lleol.

Mae nifer o gemau Cynghrair Pêl-droed Gwynedd wedi cael eu gohirio heddiw, gan gynnwys y gemau oedd fod i’w chwarae ym Miwmares, Bontnewydd, Llanfairfechan, Llanllyfni a Mynydd Llandygai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gynghrair fod yr holl feysydd chwarae uchod yn nofio dan ddŵr.

Mae holl gemau Cynghrair Pêl-droed Caernarfon a’r Ardal hefyd wedi cael eu gohirio.