Sam Warburton - yn rhydd i chwarae i'r Gleision
Fe fydd capten Cymru a’i phrop mwya’ profiadol yn chwarae i’r Gleision nos yfory er mwyn iddyn nhw cael mwy o ymarfer ar y cae cyn y gêm yn erbyn Ffrainc ymhen wythnos.

Mae Sam Warburton a Gethin Jenkins ymhlith tri newid ym mlaenwyr rhanbarth y brifddinas ar gyfer y gêm yn erbyn Glasgow Warriors yng nghystadleuaeth y Pro 12.

Roedd beirniadaeth wedi bod ar Warburton yn arbennig ar ôl y grasfa i Gymru yn Iwerddon, gyda llawer yn awgrymu nad oedd yn barod ar gyfer gêmau rhyngwladol.

Y newid arall yn y blaenwyr yw fod y prop pen tynn Scott Andrews  yn dechrau am y tro cyntaf ers diwedd mis Hydref.

Tuifua yn dechrau

Fe fydd y chwaraewr rhyngwladol o Samoa Isaia Tuifua yn dechrau am y tro cyntaf i’r Gleision, gyda phedwar newid ymhlith yr olwyr.

Mae Phil Davies, Hyfforddwr y Gleision wedi dewis Tiofua yn y canol gyda Dafydd Hewitt sydd wedi gwella o’i anaf.  Daw Richard Smith i fewn ar yr asgell a Simon Humberstone fydd yn faswr.

Meddai Phil Davies

‘‘R’yn ni wedi cael tair gêm hynod o gystadleuol yn erbyn Glasgow eisoes y tymor hwn ac rwy’n disgwyl gêm anodd nos Sadwrn,” meddai Phil Davies.

“Mae’n gêm enfawr i ni fel rhanbarth.  Mae’r chwaraewyr i gyd wedi gweithio ac ymarfer yn galed yr ystod yr wythnos.

“Mae chwaraewyr rhyngwladol profiadol yn dychwelyd i’r tîm ac rwy’n siwr y bydd hynny o gymorth mawr i ni.’’

Tîm y Gleision

Olwyr – Dan Fish, Richard Smith, Isaia Tuifua, Dafydd Hewitt, Harry Robinson, Simon Humberstone a Lloyd Williams.

Blaenwyr – Gethin Jenkins (Capten), Kristian Dacey, Scott Andrews, Macauley Cook, Filo Paulo, Ellis Jenkins, Sam Warburton a Robin Copeland.

Eilyddion – Rhys Williams, Sam Hobbs, Patrick Palmer, James Down, Rory Watts-Jones, Lewis Jones, Gareth Davies a Tom Williams.