Mae’r fuddugoliaeth o 41-33 yn erbyn Benetton Treviso oddi cartref y penwythnos diwethaf wedi bod o gymorth mawr i godi hyder bechgyn y Scarlets cyn y gêm yn erbyn Ulster yn Ravenhill heno.
Fe lwyddodd y Scarlets i guro’r tîm o’r Iwerddon 19-9 ar Barc y Scarlets ym mis Tachwedd ac fe fyddan nhw’n awyddus i ailadrodd y gamp heno.
‘‘Fe fyddwn ni’n mynd i Ravenhill heb rai o’n chwaraewyr allweddol ond mae’n rhaid i ni fod yn hyderus a cheisio chwarae fel y gwnaethon ni yn erbyn Treviso nos Wener ddiwetha,” meddai’r prif hyfforddwr, Simon Easterby.
“R’yn ni wedi bod yn gweithio ar rai agweddau o’n gêm ac mae hon yn gêm y gallwn ni ei hennill.’
Dau newid
Mae Easterby wedi gwneud dau newid i’r tîm a ddechreuodd yn erbyn Treviso gyda’r prop pen tynn rhyngwladol Samson Lee yn dod i’r tîm ar draul Jacobie Adriaanse. Mae Lee wedi ei ryddhau o garfan Cymru ar gyfer y gêm.
Bydd Johan Snyman yn dechrau yn yr ail reng, ac fydd Richard Kelly yn dechrau ar y fainc.
Dim ond un gêm y mae Ulster wedi ei cholli yn Ravenhill yn ystod y deuddeg mis diwethaf a hynny yn erbyn Glasgow ym mis Medi.
Yn ôl Easterby fe fydd yn rhaid i fechgyn y Scarlets fod ar ei gorau glas os am ddychwelyd gyda buddugoliaeth.
Tîm y Scarlets
Olwyr – Jordan Williams, Kristian Phillips, Gareth Maule, Adam Warren, Frazier Climo, Aled Thomas a Gareth Davies.
Blaenwyr – Phil John, Kirby Myhill, Samson Lee, George Earle, Johan Snyman, Josh Turnbull, John Barclay a Rob McCusker.
Eilyddion – Emyr Phillips, Rob Evans, Jacobie Adriaanse, Richard Kelly, Sione Timani, Rhodri Williams, Olly Barkley a Gareth Owen.