Malky Mackay yn cael y bai gan y clwb
Mae Cymdeithas Rheolwyr y Gynghrair wedi amddiffyn cyn-reolwr Caerdydd tros ymosodiad uniongyrchol gan berchnogion y clwb.

Maen nhw wedi cyhuddo’r cyfarwyddwyr o ymddwyn yn amhroffesiynol trwy wneud datganiad cyhoeddus am Malky Mackay ynghanol trafodaethau cyfreithiol rhwng y ddwy ochr.

Roedd eu llefarydd nhw yn rhoi’r bai yn blwmp ac yn blaen ar y Prif Weithredwr, Simon Lim, am arwyddo’r sieciau … ac yn ei feirniadu am wneud ei ddatganiad agored.

“Mae’n anffodus tu hwnt fod Mr Lim wedi penderfynu siarad allan yn y ffordd yma,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas y Rheolwyr, Richard Bevan.

“Mae Mr Lim yn ymwybodol bod proses gyfreithiol yn digwydd rhwng Malky Mackay a Chaerdydd ac mae’n amhriodol ac amhroffesiynol i unrhyw ochr wneud datganiadau cyhoeddus o’r natur hwn ar hyn o bryd.”

Cyhuddiad y clwb

Fe wnaethon nhw ymateb ar ôl i fwrdd Clwb Pêl-droed Caerdydd gyhoeddi datganiad beirniadol iawn o’r cyn-reolwr Malky Mackay gan ei gyhuddo o reoli “annoeth ac esgeulus” a’i feio am wastraffu arian y clwb.

Yn y datganiad a gafodd ei gyhoeddi neithiwr dywedodd y prif weithredwr Simon Lim nad oedd y cyfarwyddwyr yn hapus gyda’r ffordd y gwariodd Mackay arian ar chwaraewyr, gan bwyntio bys yn benodol ar Andreas Cornelius.

Yn ôl Clwb Caerdydd roedden nhw wedi gwneud colled o dros £8.5m ar yr ymosodwr a arwyddwyd o Copenhagen yn haf 2013 cyn cael ei werthu nôl iddyn nhw fis diwethaf – ac ar Mackay oedd y bai am hynny.

Ond wfftio’r cyhuddiad a wnaeth Cymdeithas Rheolwyr y Gynghrair, gan ddweud bod Mackay wedi gorfod cael caniatâd gan Simon Lim cyn prynu pob chwaraewr.

Cornelius wedi costio £10m

Yn ôl datganiad Lim fe gostiodd Cornelius bron i £10m i’r clwb, ar ôl cyfri costau ychwanegol megis cyflog a thalu asiantau, swm oedd yn annerbyniol o ystyried cyn lleied o gyfraniad a wnaeth ar y cae.

“Mae llawer o sïon wedi bod yn y cyfryngau ynglŷn â cholledion i’r clwb o werthu chwaraewyr,” meddai Lim yn y datganiad. “Yn anffodus mae hyn yn wir.

“Ni fyddai ymrwymo’r clwb i gost a chyfrifoldeb ariannol dros gytundeb pum mlynedd i un chwaraewr yn ddoeth, yn enwedig gan nad oedd yn cyfrannu i’n llwyddiant ar hyn o bryd ond yn un i’r dyfodol.

“Yn achos Andreas Cornelius, a gostiodd bron i £10m i’r clwb, fe gawson ni golled o dros £8.5m, gan gynnwys ffioedd trosglwyddo, cyflog, busnes ac iawndal a dalwyd i asiantau’r chwaraewyr a chostau eraill.”

“Annoeth ac esgeulus”

Aeth Lim ymlaen i awgrymu mai’r perchennog Vincent Tan oedd un o’r rhai oedd fwyaf anhapus gyda’r penderfyniad i brynu Cornelius.

“Mae cyfranddalwyr allweddol wedi mynegi’u hanfodlonrwydd dros golled mor fawr i fwrdd y cyfarwyddwyr, colled y maen nhw’n credu ddigwyddodd oherwydd rheolaeth annoeth ac esgeulus o dan y tîm rheoli blaenorol.”

Yn y datganiad mae Lim hefyd yn rhoi clod i’r rheolwr presennol Ole Gunnar Solskjaer am sicrhau’r bwrdd y bydd ei ffordd ef o weithio yn “ofalus, tryloyw a phroffesiynol”, yn ogystal â’i longyfarch ar y busnes da a wnaeth yn y ffenestr drosglwyddo.

Arwyddodd Caerdydd Kenwyne Jones, Fábio da Silva, Mats Møller Dæhli, Jo Inge Berget, Magnus Wolff Eikrem a Juan Torres Ruiz ym mis Ionawr, gyda Wilfried Zaha hefyd yn ymuno ar fenthyg – a gostiodd cyfanswm o £6m – gyda chwaraewyr megis Nicky Maynard yn gadael gan ddod a £3m i mewn.