Mae canolwr Ashley Beck wedi arwyddo cytundeb newydd o ddwy flynedd gyda’r Gweilch.

Mae Beck wedi bod yn ymarfer gyda’r garfan genedlaethol yr wythnos hon yn dilyn yr anaf i ganolwr Cymru Scott Williams.  Fe wnaeth Beck, 23 oed, ei ymddangosiad cyntaf i’r Gweilch yn 2007.

‘‘Fel chwaraewr ifanc, chwarae dros y Gweilch oedd fy nod, ac rwyf wedi llwyddo i wneud hynny.  Rydym yn dîm ifanc ac rwyf eisiau helpu’r rhanbarth i ddatblygu, mae gennym nifer o chwaraewyr da yn y garfan sy’n hynod o gyffrous.

“Rwyf yn hapus dros ben fy mod wedi sicrhau fy nyfodol hyd at 2016, a gallaf ganolbwyntio ar y cae yn awr,’’ meddai Beck.

‘‘Mae wedi bod gyda’r rhanbarth ers sbel, rhaid ystyried mai dim ond 23 oed yw Ashley.  Rydym yn credu bod llawer mwy ganddo i’w gynnig,’’ meddai Andy Lloyd, rheolwr gweithrediadau rygbi’r Gweilch.