Stoke 1–1 Abertawe

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi nos Fercher wrth i Abertawe deithio i Stadiwm Britannia i herio Stoke yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Rhoddodd Peter Crouch y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Chico Flores arbed pwynt i’r ymwelwyr o Gymru yn yr ail hanner.

Roedd y gêm o dan amheuaeth am gyfnod oherwydd y gwynt cryf yn Stoke ond fe gafwyd gornest yn y diwedd am wyth o’r gloch, chwarter awr yn hwyrach na’r disgwyl.

Daeth y gôl agoriadol i’r tîm cartref wedi ychydig mwy na chwarter awr pan ymatebodd Crouch yn gynt na neb wedi i gynnig Peter Odemwingie adlamu yn ôl i’w lwybr oddi ar y postyn.

Stoke a gafodd ddau gyfle gorau arall yr hanner cyntaf hefyd ond llwyddodd Michel Vorm i arbed cynnigion Marko Arnautovic a Jon Walters.

Roedd Abertawe’n well wedi’r egwyl ac roeddynt yn gyfartal wedi dim ond saith munud diolch i beniad da Chico o groesiad Pablo Hernández.

A’r Elyrch oedd yn edrych fwyaf tebygol o’i hennill hi wedi hynny. Daeth eu cyfle gorau i Wilfred Bony ond llwyddodd Asmir Begovic a Ryan Showcross rhyngddynt i atal y bêl rhag croesi’r llinell.

Mae’r pwynt yn ddigon i godi Abertawe yn ôl i’r degfed safle wedi i Aston Villa a West Ham godi drostynt nos Fawrth.

.

Stoke

Tîm: Begovic, Cameron, Pieters, Whelan (Guidetti 68′), Shawcross, Wilson, Odemwingie, Adam, Crouch, Walters (N’Zonzi 56′), Arnautovic (Assaidi 56′)

Gôl: Crouch 17’

Cardiau Melyn: Adam 36’, Crouch 88’

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Rangel, Davies, Cañas, Chico, Williams, Dyer (Emnes 82′), Britton (Amat 90′), Bony, Hernández (De Guzmán 75′), Routledge

Gôl: Chico 52’

Cardiau Melyn: Williams 36’, Britton 71’

.

Torf: 24,882