Mae Bennetton Treviso wedi cyhoeddi’u bod nhw’n bwriadu gadael cynghrair y Pro12 ar ddiwedd y tymor oherwydd yr ansicrwydd parhaol ynglŷn â’i ddyfodol.

Mewn datganiad ar wefan y clwb dywedon nhw mai’r oedi parhaol ar benderfyniadau dros ffurf y gystadleuaeth y tymor nesaf oedd ar fai.

Maen nhw nawr yn ystyried ymuno â chynghrair newydd y bydd Undeb Rygbi’r Eidal yn ceisio’i sefydlu.

Ar hyn o bryd mae rhanbarthau Cymru’n ystyried gadael y gynghrair a cheisio ymuno a chynghrair Lloegr, gan ychwanegu at ansicrwydd dros ddyfodol y gynghrair.

Ymunodd yr Eidalwyr â’r Pro12 yn 2010, gydag Aironi o’r Eidal hefyd yn chwarae yn y gynghrair rhwng 2010 a 2012 nes i Zebre gymryd eu lle.

Petai clybiau’r Eidal a Chymru’n gadael dim ond pedwar clwb Iwerddon a dau o’r Alban fyddai ar ôl yn y gystadleuaeth.

Daw’r newyddion hefyd yn ystod cyfnod cythryblus i gystadlaethau rygbi Ewropeaidd, gyda chlybiau Cymru a Lloegr ddim yn fodlon parhau i chwarae yng Nghwpan Heineken ac eisiau sefydlu cystadleuaeth newydd.