Ulster 10–7 Gweilch
Dechreuodd y penwythnos gyda buddugoliaeth i’r Gwyddelod dros y Cymry ar Ravenhill yn y RaboDirect Pro12 nos Wener.
Er mai’r Gweilch oedd ar y blaen ar yr egwyl, fe darodd Ulster yn ôl yn yr ail hanner i ennill gêm agos o un sgôr.
Cafodd y Gweilch ddechrau da gyda Sam Lewis yn sgorio wedi dim ond deg munud yn dilyn dwylo da gan Jonathan Spratt a Tyler Ardron. 0-7 ar ôl trosiad Sam Davies.
Caeodd Ruan Pienaar y bwlch gyda chic gosb hanner ffordd trwy’r hanner ond roedd yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen o hyd ar yr egwyl diolch i dacl wych Ashley Beck i atal cais ym munudau olaf yr hanner.
Ond fu dim rhaid i’r Gwyddelod aros yn hir cyn mynd ar y blaen yn yr ail hanner, wrth i’r canolwr, Darren Cave, roi’r tîm cartref bwynt ar y blaen cyn i drosiad Pienaar ymestyn y fantais i dri phwynt.
Ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd wrth i’r Gweilch orfod bodloni ar bwynt bonws yn unig. Mae’r pwynt bonws hwnnw’n ddigon i’w cadw hwy yn drydydd yn nhabl y Pro12 ond mae’r fuddugoliaeth yn codi Ulster drostynt i’r ail safle.
Cymru Dan 20
Roedd gwell newydd i’r tîm rhyngwladol dan 20 ar noson wyntog yn Athlone.
Sicrhaodd Cymru ail fuddugoliaeth o’r bron diolch i gais y capten, Steffan Hughes, ac un ar ddeg pwynt o droed Ethan Davies, 0-16 y sgôr terfynol.
.
Ulster
Cais: Darren Cave 44’
Trosiad: Ruan Pienaar 45’
Cic Gosb: Ruan Pienaar 24’
.
Gweilch
Cais: Sam Lewis 10’
Trosiad: Sam Davies 12’