Y clo Rob Sidoli fydd yn arwain tîm cryf y Dreigiau yn erbyn Caeredin ar faes Rodney Parade brynhawn dydd Sul.

Bydd Hallam Amos yn symud o’r asgell i safle’r cefnwr a Matthew Pewtner a Will Harries fydd yr asgellwyr. Pat Leach a’r chwaraewr profiadol Ashley Smith fydd yn dechrau yn y canol.

Y chwaraewr rhyngwladol Richie rees fydd y mewnwr a Jason Tovey yn cael y cyfrifoldeb o wisgo crys y maswr. Owen Evans fydd y prop pen rhydd a Dan Way y prop pen tynn â’r chwaraewr rhyngwladol T Rhys Thomas fydd y bachwr.

Y ddau glo fydd y Capten, Rob Sidoli, a’r chwaraewr ifanc, Corry Hill. Lewis Evans a Nic Cudd fydd y blaenasgellwyr, a’r chwaraewr rhyngwladol o Fiji sydd yn gwisgo crys rhif 8.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Hallam Amos, Matthew Pewtner, Pat Leach, Ashley Smith, Will Harries, Jason Tovey a Richie Rees.

Blaenwyr – Owen Evans, T Rhys Thomas, Dan Way, Cory Hill, Rob Sidoli (Capten), Lewis Evans, Nic Cudd a Netani Talei.

Eilyddion – Sam Parry, Aaron Coundley, Nathan Buck, Matthew Screech, Jevon Groves, Wayne Evans, Steffan Jones a Ross Wardle.