Bydd prif glybiau Ewrop yn ceisio cael sicrwydd am arian gan drefnwyr y Cwpan Heineken – Cwpan Rygbi Ewrop (ERC) – yn Nulyn heddiw.

Mae’r ERC wedi bod yn hwyr yn talu ffioedd am gymryd rhan yn y Cwpan Heineken i’r clybiau ond mae’n debyg bod yr ERC heb dalu oherwydd ansicrwydd am beth fydd yn digwydd i’r gystadleuaeth flwyddyn nesaf.

Gallai’r ERC gael ei ddirwyn i ben ar ddiwedd y tymor os bydd pwyllgor y Chwe Gwlad yn cymryd ei le er mwyn llywodraethu prif gystadleuaeth clybiau Ewropeaidd fel mae clybiau Lloegr a Chymru eisiau.

Bydd cynrychiolwyr o glybiau ar draws Ewrop yn holi’r ERC heddiw os yw eu taliadau wedi cael eu gohirio i wneud iawn am unrhyw rwymedigaethau posibl y dylai’r sefydliad dalu os fyddai’n dirwyn i ben ar ddiwedd y tymor.

Er bod Rygbi Rhanbarthol Cymru, y corff sy’n cynrychioli clybiau rhanbarthol Cymru, wedi rhoi’r gorau i’w sedd ar fwrdd yr ERC yng nghanol y ffrae, mae Undeb Rygbi Cymru’n eu hannog i fynychu’r cyfarfod heddiw.

Mae hi ar ddeall y bydd aelod o fwrdd Prif Gynghrair Rygbi Lloegr yn mynychu.

Mae Undeb Rygbi Cymru eisiau i Rygbi Rhanbarthol Cymru benodi rhywun arall i’w cynrychioli ar fwrdd ERC “er mwyn sicrhau newid a / neu yn dylanwadu mewn unrhyw ffordd”.

Meddai Undeb Rygbi Cymru mewn datganiad: “Byddai hyn yn galluogi Rygbi Rhanbarthol Cymru i ail ymuno â’r drafodaeth a chyfrannu’n llawn at y trafodaethau pwysig a fydd yn digwydd.

“Mae Undeb Rygbi Cymru’n credu bod y timau rhanbarthol yn cael eu gwasanaethu orau drwy gael cynrychiolaeth ar fwrdd cyfarwyddwyr ERC a thrwy weithio gydag Undeb Rygbi Cymru fel y gall y buddiannau rygbi Cymru gael eu gwarchod.”