Warren Gatland
Mae hyfforddwr Cymru wedi gofyn i’r awdurdodau rygbi am eglurhad tros y rheolau sgrymio yn sgil y gêm yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn.
Mae Warren Gatland wedi anfon tâp o’r gêm at swyddogion y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol i holi am ddehongliad y dyfarnwr o’r rheolau.
Roedd yn anhapus ar ôl i reng flaen Cymru gael eu cosbi fwy nag unwaith yn gynnar yn y gêm.
Roedd y prop pen rhydd, Paul James, wedi diodde’n arbennig ac, yn ôl Gatland, sy’n gyn chwaraewr rheng flaen ei hun, roedd yn “anlwcus”.
Roedd y ciciau cosb yn eu herbyn wedi arafu Cymru ar amser pwysig, meddai’r hyfforddwr.
Mae’r rheolau sgrymio wedi newid eleni, gyda’r ddwy reng flaen yn gorfod bod yn llawer nes at ei gilydd cyn ymglymu.