Michael Laudrup
Mae cefnogwyr pêl-droed Abertawe wedi eu rhannu tros y penderfyniad annisgwyl i roi’r sac i’r rheolwr, Michael Laudrup.

Ac mae’r trafod wedi dechrau yn y wasg am y rhesymau tros gael gwared ar y dyn a enillodd wobr fawr gynta’r clwb y llynedd.

Yn ôl un papur newydd, roedd cyfarwyddwyr yr Elyrch wedi cael llond bol ar agwedd Laudrup a’i benderfyniad i fynd i Ffrainc ddechrau’r wythnos a rhoi deuddydd o saib i’r chwaraewyr ar ôl colli gêm bwysig yn erbyn West Ham.

‘Angen awyrgylch sefydlog’

Mae’r datganiad swyddogol gan Gadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, hefyd yn awgrymu bod problemau mawr ynghylch y berthynas rhwng y rheolwr a’r chwaraewyr, a gwaith y tîm hyfforddi.

Fe ddywedodd fod y penderfyniad wedi ei wneud “yn anfoddog” ac “er lles Clwb Pêl-droed Abertawe a’i gefnogwyr”.

Mae’r datganiad yn sôn am weithredu i roi diwedd ar yr “ansicrwydd” a’r dyfalu am ddyfodol tymor hir Michael Laudrup.

Mae’n sôn hefyd am geisio cael “awyrgylch sefydlog” ac am wneud un ymdrech ola’ i gael y “tîm yn y cefn” i weithio’n well a mynd yn ôl “at y pethau sylfaenol”.

Roedd trafod yn lleol bod y chwaraewyr yn rhanedig a bod rhai wedi mynd at y bwrdd i gwyno am safon yr ymarfer.

Monk yn arwain

Mae’n ymddangos y bydd y cyn-chwaraewr a chapten y clwb, Garry Monk, yn cael swydd y rheolwr am y cyfnod nesa’, gyda chymorth yr hyfforddwr, Alan Curtis.

Dyma’r tro cynta’ i fwrdd y clwb ddiswyddo rheolwr mewn deng mlynedd ond dim ond tair gêm gartref oedd wedi eu hennill ers cipio cwpan Capital One bron flwyddyn yn ôl.

Fe wnaeth Huw Jenkins apêl ar i bobol gefnogi’r penaethiaid newydd: “Rwy’n gobeithio y gall ein cefnogwyr ddeall pa mor anodd y mae’r cyfnod yma wedi bod i ni ac fe fyddwn i’n annog pawb sy’n gysylltiedig â’r clwb a chefnogi Garry Monk, y staff a’r chwaraewyr.”

Dyw’r bwcis SkyBet ddim yn cymryd arian ar swydd rheolwr Abertawe, gan ddisgwyl y bydd Monk yno am gyfnod.

Ymateb cefnogwyr

Cymysg  yw ymateb cefnogwyr ar y cyfryngau cymdeithasol gyda rhai’n dweud bod angen newid ac eraill yn rhyfeddu at yr amseru, yn union cyn y gêm ddarbi fawr yn erbyn Caerdydd.

Mae sawl neges drydar yn tynnu sylw at y ffaith fod Laudrup ychydig yn ôl yn cael ei ystyried yn rheolwr nesa’ posib i glybiau anferth fel Barcelona neu Manchester United ond ei fod bellach wedi cael y sac gan ‘Y Swans’.